Cyflwyniad

Dychmygwch ei fod yn gan mlynedd yn y dyfodol, a’r iaith Gymraeg wedi diflannu. Os ydych yn cael y cyfle i adael neges ar gyfer y dyfodol, beth fyddech chi’n ei ddweud?

Nod y prosiect hwn yw i gwrdd â siaradwyr Cymraeg ac archifo ein sgyrsiau. Gan ddychmygu sefyllfa trwy ddefnyddio elfennau ffuglen dystopia i ragweld marwolaeth yr iaith Cymraeg. Mae’n ceisio creu sefyllfa allweddol ble mae pobl yn dychmygu beth fyddan nhw yn ei ddweud a pham pe byddant yn gwybod fod yr iaith Gymraeg am ddiflannu. Mae’r prosiect hefyd i edrych at sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio’r byd o’i amgylch, yn enwedig yn nhermau ein meddiannau. Bydd y prosiect yn enwedig yn trafod hunaniaeth Gymreig o fewn crefftau Cymreig a’i arteffactau diwylliannol. A oes Gymreictod cynhenid sy’n byw o fewn y gwrthrychau hyn?

Bydd y prosiect hefyd casgliad gofnod o’r amser dwi’n siarad efo siaradwr Cymraeg a thrio darganfod eu gobeithion, pryderon a dyheadau ar gyfer y dyfodol yr iaith Gymraeg. Hefyd bydd yn ychwanegu at stori newydd, sydd ddim ond yn defnyddio iaith lafar ac iaith ysgrifenedig ond hefyd y celfyddydau. Rwy’n awyddus i weld bod yna ffurfiau ar ddiwylliant sy’n codi uwchlaw iaith yn unig.

Os bydd unrhyw un efo diddordeb mewn cymryd rhan neu os ydych yn adnabod rhywun a fyddai’n hoffi helpu, cysylltwch â mi.

info@paul-eastwood.net

Croesewir awgrymiadau ac os gwelwch yn dda a wnewch ddosbarthu fy nghais ymysg siaradwyr Cymraeg?

Un sylw ar “Cyflwyniad

Gadael ymateb i Sian Owen Diddymu ymateb